• Bocs ARFOR

  • Feb 24 2025
  • Length: 30 mins
  • Podcast

  • Summary

  • Bwrlwm ARFOR sydd tu ôl i C’mon Cymraeg, ac fel ymgyrch mae’n archwilio i agweddau busnesau a chymunedau yn Arfor at y Gymraeg. Mae ‘C’mon Cymraeg’ yn tynnu lleisiau amrywiol i ystyried effaith yr iaith ar ffyniant busnesau, ac hefyd dylanwad busnesau ar ffyniant yr iaith – mae’n berthynas ddwy ffordd a hyn sydd dan sylw yn y podlediadau yma.

    Mae ARFOR, gan gynnwys y podlediad hwn, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

    Fy enw i ydi Zoe Pritchard ac rwy’n Prif Swyddog Gweithredol i gwmni Lafan, cwmni sydd wedi’i sefydlu ers pum mlynedd yn ôl bellach, ac yn cyflogi dros 12 o bobol. Mae’r tîm i gyd yn gweithio o adref, boed hynny yn Llandeilo, Bala, Malltraeth, neu Flaenau Ffestiniog, sef fy nghartref i. Felly mae gennym gynrhychiolaeth o bob rhan o Arfor yn ein plith.

    Mae’r bennod hon yn ran o gyfres o 8 podlediad, felly cymerwch olwg ar rai o’r pynicau eraill sy’n cael eu trafod, pob un yn cael eu cyflwyno gan berson gwadd.

    Heddiw byddwn yn trafod ac ystyried effaith yr iaith Gymraeg ar ffyniant busnesau, ac hefyd dylanwad busnesau ar ffyniant yr iaith gyda dau westai arbennig.

    Yn ymuno gyda mi i dyrchu’n ymhellach i’r pwnc difyr yma mae Dr Edward Thomas Jones, uwch ddarlithydd mewn economeg yn Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor, ac Angharad Harding, perchennog cwmni ‘Anelu’n Uchel /Aim High’, sydd yn cynnig cefnogaeth i fusnesau mewn amrywiaeth o wasanaethau, yn ogystal a hwyluso digwyddiadau rhwydweithio ar draws Gorllewin Cymru.

    Croeso i chi’ch dau!


    Hosted on Acast. See acast.com/privacy for more information.

    Show more Show less

What listeners say about Bocs ARFOR

Average customer ratings

Reviews - Please select the tabs below to change the source of reviews.